Elwyn SkeelHARRIESYn dawel ddydd Mawrth 19eg Tachwedd 2024 yn Ysbyty Llwynhelyg, bu farw Elwyn [Pask] o Llandysilio.
Cymar annwyl a chariadus Beryl, tad gofalgar a thyner Hefin a Rhys, llysdad arbennig, tadcu cariadus ei wyrion a'i orwyrion a brawd ffyddlon.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Pisga Llandysilio ddydd Sadwrn 28ain Rhagfyr am 12.00 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion er cof os dymunir tuag at Ward 8 Ysbyty Llwynhelyg trwy law Dennis Jones Trefnwyr Angladdau, Maesawelon, Efailwen. SA66 7UX Ffôn 01994 419561
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Elwyn